Mae'r adeilad bellach yn gallu gwrthsefyll tywydd gan fod dec y to a’r waliau strwythurol wedi'i gosod. Mae'r holl waith yn dod yn ei flaen yn arbennig o dda.
Cynhaliwyd digwyddiad dathlu ar safle’r ysgol newydd ar ddydd Mawrth, 14 Tachwedd i nodi cyrraedd pwynt uchaf yr adeilad, sef y seremoni y'i galwyd yn Saesneg yn seremoni ‘topping out’. Cynhaliwyd y digwyddiad gan gwmni Morgan Sindall Construction & Infrastructure Ltd ac roedd disgyblion a staff o Ysgol Gelli Aur, pennaeth gweithredol yr ysgol newydd, llywodraethwyr corff llywodraethu dros dro Ysgol Bro Penfro, aelodau Cabinet ac uwch swyddogion y Cyngor yn bresennol, ynghyd â nifer o swyddogion o dîm y prosiect.
Mynychodd disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Gelli Aur y safle i weld cynnydd y gwaith. Rhoddodd Hywel Gerrish, rheolwr y safle i Morgan Sindall Construction, daith o amgylch y safle i’r disgyblion a’r staff er mwyn iddynt weld datblygiadau diweddaraf y prosiect.
Dyfarnwyd cam adeiladu'r contract i Morgan Sindall Construction a dechreuodd y gwaith ar Safle Bush Hill.